|
1939-1945
Mae eglwys Bened Sant yn un o dim ond pedwar eglwysi yn y ddinas sy’n dianc difrod yn ystod y Blitz.
1950
Mae’r eglwys yn cael ei phenodi fel adeilad cofrestri Gradd 1.
1954
Mae eglwys Bened Sant yn dod yn un o eglwysi Urdd y Ddinas.
1971
Mae tân yn difrodi’r ochr gogledd o’r eglwys a mae’n cau am ddwy flynedd o waith trwsio.
1984
Mae Coleg Arfau Ei Mawrhydi yn dathlu ei phum canmlwyddiant gyda gorymdaith i eglwys Bened Sant.
2011
Eglwys Bened Sant yn dathlu 900 mlynedd ers ei sefydliad.
|
|
|
|
1879 ymlaen
Mae gan swyddogion y Coleg Arfau eu seddau arbennig hyd heddiw yn yr eglwys ac mae eu baneri personol yn hongian o’r oriel ynghyd a baner Dug Norfolk. Mae o leiaf 25 o’r swyddogion wedu ei claddu yma.
Yn ystod y 1870au cysidrwyd yr eglwys yn ddiangen ac roedd yna gynlluniau i’w dymchwel. Mynegwyd ddeiseb gan Gymry Anglicanaidd blaenllaw i’r Frenhines Victoria am yr hawl i ddefnyddio’r adeilad i gynnal gwasanaethau yn y Gymraeg. Ym 1879 caniataodd Ei Mawrhydi yr hawl i gynnal gwasanaethau Cymraeg yma am byth ac mae hyn wedi parhau hyd heddiw, gyda gwasanaeth bob bore Sul.
Ym 1954, pan ad-drefnwyd eglwysi a phlwyfi’r Ddinas, death St Benet yn un o Eglwysi Urdd y Ddinas yn ogystal a bod yn Eglwys Gymraeg y brifddinas.
|
|
Bu Meirion Williams, y cyfansoddwr blaenllaw, yn organydd yma yn ystod y 1960au a’r 1970au. Yn ogystal a’r Offeren Gymraeg, cyfansoddod nifer o weithiau eraill, gan gynnwys caneuon sydd dal yn ffefrynau ymysg cantorion opera Cymreig cyfoes.
Ym 1971 dechreuwyd dan gan drempyn yn y rhan ogleddol o’r eglwys a greodd difrod sylweddol, gan fwg a gwres yn bennaf. Wrth adnewyddu’r eglwys symudwyd yr organ, adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ol i’w lle gwreiddiol yn yr oriel orllewinol. Ailagorwyd yr eglwys ym Mai 1973 pan dderbyniwyd neges oddi wrth Tywysog Cymru a seiniwyd ffanffer gan utgornwyr y Gatrawd Gymreig i ddathlu’r achlysur.
Heddiw, mae cynulleidfa Bened Sant yn parhau i wneud yn hysbys y newyddion da am Iesu Grist o'r newydd i'r genhedlaeth bresennol o'r Cymry yn Llundain.
|
|